Glaswelltir a choetir calchfaen yn llawn rhywogaethau ac yn edrych dros Fryniau Clwyd. Rhagorol ar gyfer amrywiaeth eang o löynnod byw.
Gwelir y warchodfa ar 8.7 hectar o allgraig calchfaen. Roedd wedi'i gadael am lawer o flynyddoedd nes iddi gael ei throi'n warchodfa natur yn 1992. Mae'r Ymddiriedolaeth yn dal y safle ar brydles gan Pioneer, sy'n gofalu am y Chwarel gerllaw. Mae Pioneer wedi llunio cytundeb gyda'r Awdurdod Lleol, sy'n datgan ei bod yn ofynnol i'r safle gael ei reoli er budd cadwraeth natur.
Mae'r warchodfa'n 3 milltir i'r de orllewin o'r Wyddgrug, ychydig i'r gogledd o Faeshafn. O barc y pentref, dilynwch naill ai'r llwybr troed cyhoeddus heibio'r capel i'r gorllewin neu'r un sy'n mynd tua'r gogledd. Mae'r ddau'n ein harwain i ran ddwyreiniol y warchodfa.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Llun gan Damian Hughes
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Aberduna SJ 198 613