Mae Blaen-y-Weirglodd yn gors fawn sy'n ddeg erw o faint ger Llansannan.
Ym Mlaen-y-Weirglodd ceir amrywiaeth cyfoethog o blanhigion cors lliwgar ac mae'n gartref i'r Gïach yn y gaeaf. Mae'n gors fawn sy'n ddeg erw o faint yn ymyl Llansannan. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn gynefin a arferai fod yn gyffredin iawn yng nghymoedd Cymru ar un adeg.
Mae'r warchodfa wedi'i lleoli 2 filltir i'r de-orllewin o Lansannan (SH914 633). O Lansannan, cymerwch y B5384, dilynwch yr arwydd am Wytherin, cymerwch yr ail ar y chwith, gan fynd dros grid gwartheg, a pharcio yn y cilfan ar y dde (cyn cyrraedd y trac lleidiog ar y chwith a'r grid gwartheg nesaf). Cerddwch ar draws y cae ar y chwith drwy'r giât mochyn. Dilynwch linell yr hen wrych (clawdd wedi'i godi) ar y chwith i chi i gyrraedd y warchodfa.
Peidiwch â cherdded dros y gors, yn arbennig yr ardaloedd gwlyb. Mae Sphagnum yn cymryd blynyddoedd i adfer wedi cael ei sathru. Cadwch at y llwybr a chadwch gŵn dan reolaeth. Byddwch angen esgidiau addas, esgidiau cerdded cryf neu esgidiau glaw. Cymerwch ofal wedi iddi fwrw, fe all y safle fod yn wlyb iawn. Nid yw'r warchodfa'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio na chadeiriau olwyn.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy ebost..
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Llun gan Sarah Lees
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Blaen-y-Weirglodd SH 914 633 (10 erw)