Palmant calchfaen, corstir a glaswelltir gyda golygfeydd gwych o Fae Penrhyn.
Bryn Pydew yw un o'r safleoedd gorau yng Nghymru ar gyfer gweld planhigion a berthyn i balmant a glaswelltir calchfaen. Gwelir y warchodfa ar Galchfaen Carbonifferaidd. Mae'r priddoedd tenau a'r allgreigiau'n gwneud y tir yn anaddas ar gyfer gwelliannau amaethyddol ac, yn y gorffennol, dim ond ar gyfer pori garw mae wedi'i ddefnyddio mae'n bur debyg. O ganlyniad, mae gan y safle amrywiaeth eang o blanhigion sy'n hoffi calchfaen. Cafodd y cyfoeth hwn ei gydnabod yn sgil arolwg ar balmantau calchfaen yng Nghymru a Lloegr yn 1974 a sefydlwyd y warchodfa yn 1976.
Mae'r warchodfa wedi'i lleoli ryw ddwy filltir i'r gorllewin o Fae Colwyn, ar y ffordd rhwng pentref Pydew a Neuadd Llangwstenin. Ceir maes parcio ar ochr y ffordd (OS (1:50,000) Dalen 116).
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Rob Booth ar 01248 351541 neu 07764 897413 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Llun gan Jen Berry
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Bryn Pydew SH 818 798 (12 erw)