Patrymau caeau traddodiadol gydag amrywiaeth o flodau gwyllt, yn cynnwys y Tegeirian Llydanwyrdd Mawr.

Gyda chloddiau (daear a cherrig) yn derfynau o'u hamgylch, mae Caeau Tan y Bwlch ymhlith y caeau traddodiadol olaf i fod ar ôl ar Benrhyn Llŷn. Yn eiddo i Plantlife, maent wedi'u gwarchod yn awr, diolch i bartneriaeth sy'n cynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Sadwrn 30ain Mehefin 2007
11am - 4pm
Diwrnod arolygu yng Nghaeau Tan y Bwlch

Ymunwch yn yr arolwg blynyddol ar y warchodfa arbennig hon.
Byddwn yn cofnodi'r llystyfiant gyda chwadratau ac yn cyfrif y boblogaeth fawr o'r Tegeirian Llydanwyrdd Mawr.
Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, cynaeafwyd gwair ar y caeau yn 2006. Nawr bod y dull rheoli wedi newid, tybed a fydd mwy o degeirianau yma na'r swm o gyfrif y llynedd?
Cyfarfod yng Ngwarchodfa Caeau Tan y Bwlch
(Cyf. grid: SH431488)

Dilynwch yr A499 o Gaernarfon i Bwllheli. Ychydig cyn yr eglwys yng Nghlynnog Fawr, cymerwch dro sydyn i'r chwith am Lanllyfni ac yna trowch yn syth i'r dde. Ewch yn eich blaen i fyny'r allt ar y ffordd gul hon am ryw 3/4 milltir. Yna, trowch i'r dde'n annisgwyl. Ewch yn eich blaen ar hyd y lôn droellog hon am ryw filltir. Wedi troi i'r chwith ar ongl sgwar, ewch yn eich blaen am ryw 150m. Mae Caeau Tan y Bwlch ar y chwith i chi. Trowch i mewn i'r giât a pharciwch yn y maes parcio bychan.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Rob Booth ar 01248 351541 or 07764 897413 neu drwy ebost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







Llun gan Chris Wynne

logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Caeau Tan y Bwlch SH431488 (12 erw)