Coetir calchfaen sy'n cynnwys ardal fechan o yw naturiol.

Mae Coed Cilgroeslwyd yn warchodfa fechan daclus sy'n cynnwys coetir hynafol a glaswelltir a llwyfandir calchfaen yn edrych draw dros Ddyffryn Clwyd.

Prynodd YNGC y warchodfa yn 1964. Cafodd ei phwysigrwydd ei gydnabod yn 1972 wrth iddi gael ei chynnwys fel rhan o SoDdGA Coed a Chreigiau Eyarth. Mae'r warchodfa'n llawn coed llydanddail lled-naturiol ar sylfaen garbonifferaidd ond mae hefyd yn cynnwys chwarel fechan gyda glaswelltir calchfaen.

Mae'r warchodfa'n oddeutu dwy filltir i'r de orllewin o Ruthun. Gellir ei chyrraedd drwy gyfrwng llwybr troed o'r A494, gyferbyn â Phont Eyarth. Gellir cael hyd i ofod parcio mewn cilfan dros y bont, yn SJ 127 553, lle ceir gofod ar gyfer dau gar. Cymerwch ofal rhag blocio'r giât gerllaw.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Coed Cilygroeslwyd SJ 124 556 (10 erw)