Yn enghraifft wych o Goetir Hynafol gyda chyfoeth o fwsoglau, llysiau'r afu a rhedyn, mae Gwarchodfa Coed Crafnant yn cynnwys dwy goetir nodedig; Coed Crafnant a Choed Dolbebin.

Gyda'i gilydd, maent yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig helaeth Rhinog yn y Parc Cenedlaethol. Mae'r warchodfa, sy'n 49 hectar o ran maint, yn bwysig am ei hamrywiaeth o blanhigion cyntefig, fel mwsoglau a llysiau'r afu. Mae'r rhain yn dibynnu ar amgylchedd cynnes, llaith i oroesi. Mae'r canopi brodorol o goed derw wedi darparu'r amgylchedd yma ers rhyw 6,000 o flynyddoedd. Mae'r coed yn gartref hefyd i sawl math o drychfil, aderyn a mamal.

O ffordd yr A496 o Harlech i Abermaw, trowch i ffwrdd ym mhrentef Llanbedr wrth dafarn y Vic am Gwm Bychan. Ewch ymlaen i fyny'r allt am ryw 2.75 km nes eich bod yn cyrraedd Pen-y-Bont (SH607280).
Ar gyfer mynedfa Dolbebin (y fynedfa ddeheuol) Trowch yn sydyn i'r dde dros y bont a thrwy'r giât. Dilynwch y trac garw am ryw 0.5 km ac yna trowch i'r dde i'r Fron. Ewch ymlaen i fyny'r allt, drwy giât bellach, daliwch i'r chwith ac ewch ymlaen am ryw 200m. Ceir gofod parcio ar gyfer dau gar yn y gilfan fechan ar y chwith, yn union cyn giât fechan y warchodfa.
Ar gyfer mynedfa Pont Crafnant (y fynedfa ogleddol) Ewch ymlaen heibio Pen-y-Bont am 1.5km pellach tuag at Gwm Bychan. Ceir gofod parcio ar gyfer dau gar ar ochr y ffordd yn SH617290, yn edrych dros Bont Crafnant. Ar droed, ewch i mewn drwy'r giât ar y ffordd, croeswch y bont dros yr afon Artro a cherddwch i lawr heibio'r hen ysgubor ar y dde. Croeswch dros y gamfa ac ewch ymlaen ar hyd y trac, gan ddal i'r dde. Mae giât fechan y warchodfa o'ch blaen.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Rob Booth ar 01248 351541 neu 07764 897413 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







Llun gan Lin Cummins

logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Coed Crafnant SH 619 289 (120 erw)