Coetir galchfaen gyda blodau gwyllt y gwanwyn a llawer o adar cyffredin.

Mae gwarchodfa Coed Porthamel wedi'i rhannu'n ddwy ran ar Fferm Porthamel: Coed Chwarel i'r dwyrain a Choed Brain i'r gogledd. Mae'n eiddo i Gyngor Sir Ynys Môn ac yn cael ei rheoli gan YNGC. Mae Coed Chwarel yn llawn coed aeddfed ond ceir hefyd rai ardaloedd llawn drain ochr yn ochr â'r llennyrch agored. Yma ceir amrywiaeth o blanhigion mewn priddoedd bas ar galchfaen. Arferai Coed Brain fod yn llawn sycamorwydd ond wedi torri coed yno'n ddiweddar mae llawer o ynn ieuainc yn tyfu ar y safle bellach.
Access to the reserve requires a key available from the NWWT Bangor office.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Chris Wynne ar 01248 351541 neu 07764 897411 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







Llun gan Chris Wynne

logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Coed Porthamel SH 508 678 (5 acres)
angen caniatâd i fynd i mewn iddi.