Coetir wedi'i sefydlu'n dda gyda blodau gwyllt cyffredin y coetir.

Coedwig hynafol o glychau'r gog gyda hanes maith. Mae Coed Trellyniau yn un o'r gweddillion naturiol olaf o goed derw hynafol a choetir ynn. Er bod llawer o'r coed gwreiddiol wedi'u torri, a ffawydd a ph”n wedi'u plannu yn eu lle, mae'r carped o flodau gwyllt y goedwig yn aros yr un fath ag yr oedd ganrifoedd yn ôl i raddau helaeth. Mae'r clwstwr anhygoel o glychau'r gog yn enwog yn lleol a cheir llawer mwy o blanhigion yn y goedwig hynafol hefyd.

Mae'r warchodfa chwe milltir i'r gogledd orllewin o'r Wyddgrug. O ffordd yr Wyddgrug - Dinbych (A541), trowch i'r gogledd am Res y Cae (gweler y map). Mae'r ffyrdd hyn yn gulion iawn ond ceir rhyw faint o ofod parcio ar ymyl y ffordd yn SJ 177 693.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







photo of Coed Trellyniau in spring

lluniau gan Lin Cummins

photo of coed trellyniau in spring

logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Coed Trellyniau SJ 181 692 (9 erw)