Coedwig hynafol ar galchfaen gyda blodau gwyllt cysylltiedig a llwybr natur.

Mae Coed-y-Felin yn goedwig hynafol gyda charped o glychau'r gog yn y gwanwyn. Mae'n goetir llydanddail hynafol yn ymestyn am ryw hanner milltir ar hyd llethr deheuol Cwm Afon Chwiler, ryw bedair milltir i'r gogledd orllewin o'r Wyddgrug. Mae'n cael ei phrydlesu i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan Wimpy Asphalt.

Saif y warchodfa bedair milltir i'r gogledd orllewin o'r Wyddgrug yn Hendre, ar yr A541. Ceir gofod parcio bychan yn y pen deheuol a mynedfa i'r anabl a maes parcio mawr yn y pen dwyreiniol.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Simon Farr ar 01352 810469 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Coed y Felin SJ 192 677 (25 acres)