Cors yn yr ucheldir gyda chynefin da i'r troellwr.
Mae Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd yn fosaig o nentydd agored, tir gwlyb, glaswelltir asidig a rhostir. Mae'r amrywiaeth yn ganlyniad i newid yn y ddaeareg sylfaenol a dylanwad dyn. Prydlesir y warchodfa gan y Fenter Goedwigaeth, sy'n berchen ar ac yn rheoli'r coedwigoedd o amgylch.
Rydym yn cynnig teithiau cerdded y troellwr bob mis Mehefin. Cysylltwch â ni am fanylion.
Saif y warchodfa yng Nghoedwig Gwydyr, ryw 3 milltir i'r gogledd orllewin o Fetws-y-Coed. Gellir cyrraedd y warchodfa ar hyd ffyrdd heb eu dosbarthu gan adael yr A5 i'r gorllewin o Fetws-y-Coed wrth Tŷ Hyll ac o ffyrdd tebyg yn gadael y B5106 i'r gorllewin o Lanrwst yng Ngwydyr Uchaf.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Cors Bodgynydd SH 767 597 (55 erw)