Mae Cors y Sarnau'n dir gwlyb gwerthfawr ac yn enghraifft dda o gors mewn dyffryn isel, lle mae llyn bas wedi datblygu'n gorsydd a siglenni gwlybdir amrywiol. Mae'r math yma o gynefin yn brin iawn yn y DG.
Mae'n anodd parcio yma ac ni ddylid ceisio gwneud hynny wrth yr ysgol. Efallai fod modd parcio ar ochr y ffordd ym mhentref y Sarnau a cherdded at y llwybrau troed.
Gwaetha'r modd, ni ellir gweld llawer o'r cynefinoedd o gors a siglen o'r llwybrau troed, gan fod y tir sy'n arwain oddi wrth y llwybrau troed yn anwastad iawn ac yn wlyb, gyda sianelau dyfnion o ddŵr. Nid ydym yn argymell eich bod yn archwilio'r safle yma. Os ydych yn ymweld, cadwch at y llwybrau troed bob amser os gwelwch yn dda.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Llun gan Philip Snow
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Cors-y-Sarnau SH 967 386 (37 erw)