Glaswelltir calchfaen ar y Gogarth gydag amrywiaeth o löynnod byw.
Gwelir y safle hwn ar lethr glaswelltog serth ac felly mae'n anodd cerdded yma. Mae'n haws gweld y safle o'r ffyrdd sydd o amgylch y cloddiau. Yn enwog am y glöynnod byw a welir yma, yr haf yw'r adeg gorau i ymweld, ond ceir golygfeydd trawiadol drwy gydol y flwyddyn allan i'r môr.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Rob Booth ar 01248 351541.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Gogarth SH761 830 (7 erw)