Mae Cors Maen Llwyd, rhostir o rug, yn gartref i amrywiaeth o adar yr ucheldir, gydag ardaloedd o gorsydd mawn sy'n cynnig cyfoeth o blanhigion a thrychfilod.
Dyma warchodfa fwyaf yr Ymddiriedolaeth, yn 280 hectar. Wedi'i brynu yn 1988, mae'r rhostir grug hwn a'r cynefin o orgors yn rhan o SoDdGA Mynydd Hiraethog.
Saif y warchodfa 7 milltir i'r de-orllewin o Ddinbych ar y B4501. Mae'n gorwedd ym mhen gogleddol Llyn Brenig. O Ddinbych, cymerwch ffordd yr A543 am Bentrefoelas. Wedi 7 milltir, trowch i'r chwith ar y ffordd ag arni arwydd Llyn Brenig. Wedi milltir, trowch i'r chwith eto, mae'r ffordd yn arwain drwy'r warchodfa. Parciwch yn y maes parcio yn y top (SH 970 580) neu wrth ymyl y guddfan adar (SH 983 5754). Yr arosfan bws agosaf yw'r un yn Nantglyn (3 milltir o'r warchodfa). Daliwch fws rhif 61 o Bwll Lenton, Dinbych.
Cysylltwch â (01352) 714035 am amseroedd.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'