Gwaith ffrwydrol a ddatgomisiynwyd ac sydd bellach wedi cael bywyd newydd fel gwarchodfa natur. Coetir a rhos. Yn enwog am ei hystlumod a'r troellwr.
Arferai Gwaith Powdwr fod yn waith ffrwydron rhwng 1865 a 1995. Fe'i cyflwynwyd yn rhodd i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru gan ICI yn 1998 ac fe'i rheolir fel gwarchodfa natur yn awr. Mae'r safle 28 hectar yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd, yn cynnwys coetir, llwyni, rhostir, creigiau noeth a dŵr agored ac mae hefyd yn gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau, yn cynnwys y Troellwr, y Dylluan Wen, y Gwybedog Brith, y Ffwlbart, saith rhywogaeth o ystlum a Gwas y Neidr yr Ymerawdwr, sy'n greadur nodedig iawn. Mae'r warchodfa'n cynnig golygfeydd arbennig iawn dros Aber Afon Dwyryd o'r guddfan adar a bydd nifer o'r llwybrau ar y safle'n cynnig mynediad rhagorol.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Rob Booth on 01248 351541.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Gwaith Powdwr SH621389 (81 erw)