Glaswelltir niwtral gyda chyfoeth o rywogaethau, yn cynnwys Tag yr Aradr Esgyrnog a'r Tegeirian Llydanwyrdd Mawr.
Mae gwarchodfa Maes Hiraddug yn cynnwys enghraifft ragorol o'r math o ddolydd blodau gwyllt a arferai fodoli cyn dyfodiad rheolaeth fodern ar dir amaethyddol.
Mae'r ddôl hon, a'r un gyferbyn i'r gogledd ddwyrain, yn ffurfio Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Maes Hiraddug. Fe'i crëwyd yn 1999 i gydnabod pwysigrwydd y cynefin hwn o ddôl heb ei gwella.
Mae'r warchodfa i'r gogledd-ddwyrain o bentref Dyserth, rhwng Rhuddlan a Phrestatyn. O'r briffordd drwy Dyserth (A5151), dilynwch y lôn gul ar hyd Meddygfa Tŷ'r Chwarel. Dilynwch y lôn nes mynd heibio i rai stepiau y naill ochr i'r ffordd. Mae gofod parcio ar gael mewn cilfan bychan gyferbyn â lôn gul ryw 50m ymhellach ar hyd y ffordd. Cerddwch yn ôl at y stepiau a dilyn y rhai ar y chwith i fynd i mewn i'r warchodfa.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Maes Hirradug SJ 061 794 (5 erw)