Hen chwrael dywod a graean gyda glaswelltir a llwyni. Rhagorol ar gyfer blodau gwyllt a glöynnod byw.
Mae nifer o blanhigion a glöynnod byw diddorol wedi dod i fyw i chwarel segur Marffordd. Mae'n chwarel dywod a graean wag. Wedi'i hagor yn wreiddiol yn 1927 i ddarparu deunyddiau ar gyfer adeiladu Twnel Merswy, daeth y gwaith i ben yma yn 1971 pan adawyd i 39 erw adfywio'n naturiol. Cafodd yr ardal ei dynodi'n SoDdGA yn 1989 a phrynwyd 28 erw yn 1990 gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, fel gwarchodfa natur.
Mae'r warchodfa'n rhyw 2.5 milltir i'r gogledd orllewin o Wrecsam ac yn union i'r gorllewin o bentref Marffordd. Gallwch gyrraedd y brif fynedfa drwy droi i mewn i Lôn Springfield (50 llath i'r gogledd o Westy'r Trevor Arms) ar y B5445 ym Marffordd (rhwng Yr Orsedd-Goch a Gresffordd). Mae'r fynedfa i'r warchodfa oddeutu 400 llath ar y chwith - yn union cyn y bont reilffordd. Ceir gofod parcio bob ochr i'r bont.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Tegeirian Pyramid yn Chwarel Marffordd
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Marford Quarry SJ357 560 (26 erw)