Comin o laswelltir calchfaen gyda golygfeydd o Eryri ac Ynys Seiriol.
Fariandyrys gallwch fwynhau'r golygfeydd gwych o fynyddoedd Eryri a Thraeth Lafan a chael cipolwg ar ryw faint o'r bywyd gwyllt sy'n gwneud Ynys Môn mor arbennig. Mae Mariandyrys yn cynnwys calchfaen carbonifferaidd, y graig sydd hefyd wedi ffurfio'r Gogarth. Mae'r calchfaen yn bwysig oherwydd mae'n darparu'r pridd y mae grŵp nodweddiadol o blanhigion ei angen.
Ar adegau amrywiol, efallai y gwelwch chi garped glas o seren y gwanwyn, blodau gwyn neu binc golau'r tegeirian brith cyffredin (chwith), piws y lliflys neu felyn llachar y cor-rosyn cyffredin.
Mewn mannau ar ochr y bryn, mae pridd o fath gwahanol wedi datblygu ar ddeunydd a adawyd ar y safle'n wreiddiol filoedd o flynyddoedd yn ôl, yn ystod Oes yr Iâ. Gellir adnabod mannau o'r fath drwy edrych ar y planhigion sy'n tyfu arnynt: y grug cyffredin, grug clochog ac eithrin gorllewinol byr. Yn aml, maent yn cymysgu gyda rhywogaethau sydd wrth eu boddau gyda chalch, fel y gwyddlwyn cyffredin a'r crogedyf.
Mae'r blodau gwyllt niferus yn darparu cyfleoedd bwydo i löynnod byw a'u lindys. Mae lindys du blewog y cadfridog coch yn bwydo ar ddanadl poeth ac mae'r glöyn llwyd yn bwydo ar rug clochog - gyda'i batrwm llwydfrown a du'n guddliw rhagorol iddo. Wrth i'r haf droi'n hydref, mae'r hadau sy'n aeddfedu'n darparu ffynhonnell fwyd bwysig i adar fel y nico (chwith). Mae'r eithrin trwchus yn safleoedd nythu delfrydol ac yn glwydi da ar gyfer canu i glochdar swnllyd y cerrig a'r bras melyn llachar.
Mae Mariandyrys ar y ffurf y mae heddiw yn sgil miloedd o flynyddoedd o ddefnydd gan ddyn. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru'n rheoli'r safle drwy gael merlod i bori yno a thrwy losgi a thorri'r eithin yn ofalus. O ganlyniad i'r gwaith hwn, rydym yn gallu darparu cynefin addas ar gyfer nifer o anifeiliaid a phlanhigion.

Mae'r warchodfa ym mhen dwyreiniol Ynys Môn. I gyrraedd y safle, ewch drwy Fiwmares ac ar hyd y B5109 am Langoed. Yn Llangoed, dilynwch yr arwyddion am Lan-yr-afon ac ewch ymlaen ar hyd y ffordd hon am filltir, gan fynd heibio i'r blwch ffôn ar y chwith ac i mewn i bentref Glan-yr-afon. Ceir tair mynedfa i'r warchodfa a gellir cyrraedd pob un ohonynt drwy ddal i fynd i fyny'r allt drwy Lan-yr-afon.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Chris Wynne ar 01248 351541 neu 07764 897411 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







Chwarel ym Mariandyrys


Y Cadfridog Piws


Y Nico


Ceir gwybodaeth bellach am fioamrywiaeth Ynys Môn gan:
Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ynys Môn
01248 752400
www.anglesey.gov.uk
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
01248 672500
www.ccw.gov.uk

logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Mariandyrys SH603 811 (14 erw)