Twyni tywod a gwlybdir ger Porthmadog gyda blodau gwyllt sy'n nodweddiadol o'r cynefinoedd hyn. Rheolir rhan o'r safle ar gytundeb ar ran Parc Gwyliau Greenacres.
Mae Morfa Bychan yn cynnig cyfle i weld planhigion morol prin mewn system ddeinamig o dwyni. Ceir amrywiaeth cyflawn o gynefinoedd twyni yma.
Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, gadawyd gwaddodion o Eryri ym Môr Iwerddon. Yng ngogledd Cae Beredigion, mae'r cerrynt cryfaf yn cario'r gwaddodion hyn am Dremadog. Mae symud y gwaddod yn barhaus wedi arwain at ddatblygu bariau tywod helaeth ym Mae Tremadog.
Ceir hyd i'r warchodfa i'r DO o Borthmadog. O ganol y dre, dilynnwch yr arwyddion am Morfa Bychan, gan droi i'r dde ar hyd yr A487. Dilynnwch y ffordd yma nes cyraedd Clwb Golff Pothmadog ar y chwith. Parciwch yn y pentref a cerddwch ar hyd llwybr y cwrs golff, heibio sied gofalwr y cwrs i'r gamfa yng nghornel GDd y warchodfa. Neu, mae'n bosib cyraedd y warchodfa o'r traeth ar ol parcio yn y maes parcio ar ddiwedd y ffordd i'r traeth. (SH543365)
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Rob Booth ar 01248 351541 neu drwy ebost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Twyni ym Morfa Bychan
Llun gan Frances Cattanach
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Morfa Bychan a Greenacres SH548 368 (77 erw)