Coetir calchfaen fechan mewn hen chwarel ger Llangollen.
Gwarchodfa fechan, hudolus yw Chwarel Pisga, gyda chymysgedd rhyfeddol o goetir, blodau gwyllt a golygfeydd trawiadol dros Ddyffryn Llangollen. Mae'n rhan o Goed Pen y Graig sy'n edrych dros Dyffryn Dyfrdwy. Mae'r coetir ynn yn arbennig o bwysig, a'r glaswelltir calchaidd. Chwarelwyd calchfaen ar y safle hyd at 1830. Cafodd y tir ei gyflwyno'n rhodd i'r Ymddiriedolaeth Natur yn 1990, yn unol â dymuniad Miss Hartley o Fron House.

Mae'r warchodfa ar fryn ym mhentref Froncysyllte oddi ar yr A5, i'r dwyrain o dref Llangollen.
Cyfarwyddiadau o Froncysyllte:
O'r dwyrain: trowch i'r chwith wrth fforchio gyferbyn â'r B5434 a chyn Tafarn y Bont Ddŵr. Dilynwch y ffordd i fyny ac i'r chwith i Fryn y Methodistiaid. Trowch i'r dde heibio'r ysgol, rhwng y waliau cerrig.
O'r gorllewin, trowch i'r dde yn y fforch wedi Tafarn y Bont Ddŵr, ewch i fyny allt serth a throi'n sydyn i'r dde yn y gyffordd-T gyferbyn â'r blwch ffôn. Cymerwch y cyntaf ar y chwith rhwng y waliau cerrig (cyn yr ysgol). Parciwch ym mhen draw'r ffordd.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy ebost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







Golygfa o Warchodfa Natur Chwarel Pisga o'r awyr.

logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Pisgah Quarry SJ268 411 (2 erw)