Porth Diana yw’r warchodfa natur leiaf gan Ymddiriedolaeth Natur ar Ynys Môn – yn 2 hectar, dim ond maint cael pêl droed yw hi, ac mae’n hawdd ei chyrraedd o’r ffordd (Ffordd Ravenpoint) a’r traeth gerllaw.
Daeth Porth Diana’n warchodfa natur yn 1979, yn bennaf er mwyn gwarchod y Cor-Rosyn Rhuddfannog, blodyn sirol Ynys Môn. Mae’r warchodfa’n rhan o’r rhostir arfordirol o bwysigrwydd cenedlaethol sydd i’w weld ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi.
Ymhlith y planhigion nodweddiadol yn yr ardal mae’r Grug Clochog a Chyffredin a’r Eithrin Gorllewinol byr ac, yn y clytiau agored o laswellir, gallwch weld blodau gwyllt fel Seren y Gwanwyn, Briweg y Cerrig a Phys y Ceirw, yn ogystal â’r Cor-Rosyn Rhuddfannog eiddil ei hun. Mae’r llystyfiant hwn o gymorth i gynnal poblogaeth iach o infertebrata, yn cynnwys y Chwilen Deigr Werdd, Sioncyn y Gwair y Ddôl a’r Sioncyn y Gwair Brith, y Tirsbonciwr a glöynnod byw fel y Glöyn Llwyd, y Brithribin Bach a’r Copor Bach, i enwi dim ond rhai. Hefyd, mae’r eithin trwchus yn gartref i nifer o adar bach y rhostir, fel Clochdar y Cerrig, y Llinos a Thinwen y Garn, sy’n ymweld yn y gwanwyn.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Chris Wynne ar 01248 351541 neu 07764 897411 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

llun gan Lin Cummins
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Porth Diana SH 256 781 (5 erw)