Y sefyllfa, ar hyn o bryd, gyda’r estyniad i’r chwarel yw fod pob caniatâd cynllunio, a oedd angen, nawr mewn bod ac mae’r gwaith rhagarweiniol wedi cychwyn.

Fe roddwyd caniatâd cynllunio am estyniad i’r chwarel wreiddiol yn Rhuddlan Bach, gan Gyngor Ynys Môn yn ôl ym mis Chwefror 2006 ond ni chafwyd cytundeb gan y cyrff statudol tan yr Haf 2006 yng nglyn â’r amodau cynhwysfawr a manwl a oedd yn ddarn o’r caniatâd hwn. Ar ôl hyn cafwyd eu cyflwyno i’r datblygwyr.

Ochr yn ochr â’r chwarel mae yna gynlluniau i, yn y dyfodol, ddefnyddio yr estyniad a fwriedir fel safle dirlenwad i dderbyn ysbwriel anadweithiol. Defnyddiwyd gwagle’r chwarel bresennol i hyn yn barod ac, er mwyn iddynt wneud hyn, fe oedd rhaid cael caniatâd gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Yn dilyn trafodaethau manwl a chymhleth fe roddwyd y caniatâd yn yr Hydref 2007.

Fe fydd yr Ymddiriedolaeth Natur yn cysylltu gyda Chyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd ac asiantaethau eraill i sicrhau llwyr gydsyniad gyda’r rhaglen monitro manwl-gywir hwn.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Chris Wynne ar 01248 351541 neu 07764 897411 neu drwy e-bost.



NWWT logo

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Cors Goch – Y Diweddaraf ar Estyniad i Chwarel Rhuddlan Fach

Diweddarwyd 5 Ionawr 2008