Glaswelltir calchfaen ar y Gogarth.
Mae amrywiaeth eang o flodau gwyllt yn ffynnu ar lethrau cysgodol Rhiwledyn. Mae'r warchodfa'n 12 erw ac yn agos at y môr, ger Llandudno. Mae rhan ddwyreiniol y warchodfa, sy'n rhan o SoDdGA Rhiwledyn, yn laswelltir calchfaen gyda pheth calchfaen noeth. Mae rhan orllewinol y warchodfa'n cynnwys llwyni o ddrain duon yn bennaf, a glaswelltir heb ei wella. Cafodd y warchodfa ei gadael i'r Ymddiriedolaeth yn 1994 yn ewyllys Miss Holden.
Mae'r warchodfa wedi'i lleoli 2 filltir i'r dwyrain o Landudno, gerllaw'r B5115 i Fae Colwyn (SH 814 821). O Landudno, ewch ar hyd y ffordd ar hyd glan y môr i Fae Penrhyn. Mae'r warchodfa ar ochr y tir i'r Gogarth, gyferbyn â Craigside Inn. Mae'r maes parcio agosaf yn y gilfan ar Ffordd Bryn-y-bia (SH 818 819). Mae mynedfa'r warchodfa drwy'r giât mochyn, sydd wedi'i harwyddo fel Llwybr Gogledd Cymru, llwybr troed cyhoeddus o'r briffordd. Fel dewis arall, gallwch ddod i'r warchodfa o'r dwyrain, o Fae Penrhyn, ar hyd Llwybr Gogledd Cymru, gan ddod i mewn i'r warchodfa drwy giât mochyn (SH 814 823).
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Rob Booth ar 01248 351541 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'

Adar Drycin y Graig yn Rhiwledyn
Llun gan Sarah Lees
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Rhiwledyn SH813 821 (12 erw)