Lagŵn arfordirol gyda chuddfan adar yn edrych drosto a mynediad i'r anabl yn darparu golygfeydd o adar rhydio a hwyaid yn y warchodfa ac ar Draeth Lafan.
Gellir cyrraedd Y Spinnies, Aberogwen (SH 613 721) o Fangor drwy ddilyn ffordd Tal-y-Bont o'r cylchfan ar yr A5122 ger mynedfa Castell Penrhyn. Ceir arwyddbost ar gyfer y ffordd sy'n arwain i'r warchodfa ar yr ochr chwith, wedi 1km. Gellir cyrraedd y warchodfa o ffordd yng Nghyffordd 12 yr A55 hefyd. Mae'r ffordd fechan yn arwain at faes parcio. Cerddwch yn ôl i lawr y ffordd am y mynedfeydd i'r warchodfa. Byddwch yn ofalus wrth wneud hyn.
Mae modd cyrraedd y warchodfa o'r maes parcio drwy gerdded ar hyd y traeth o ro mân. Mae hwn yn llwybr anwastad ac anodd, ac mae'r llanw'n effeithio arno. Gall defnyddio'r llwybr hwn darfu ar adar ar yr aber, ac effeithio ar fwynhad eraill o'r safle.
Ceir safle hebrwng ym mhrif fynedfa'r warchodfa i ymwelwyr llai abl, ond dylid bod yn ofalus yn y fan yma, oherwydd mae'n cael ei ddefnyddio fel safle troi gan gerbydau fferm.

I lwytho taflen lawn y warchodfa gyda map o'r safle a llawer mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dudalen rydych ei hangen. SYLWER: Mae'r ffeiliau hyn yn fawr felly fe all gymryd amser i'w llwytho.
Clawr y Daflen a Gwybodaeth am Leoliad (pdf 544k)
Map o'r Warchodfa (pdf 544k)
Gwybodaeth am y Warchodfa (Cymraeg) (pdf 784k)
Gwybodaeth am y Warchodfa (Saesneg) (pdf 784k)

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Chris Wynne ar 01248 351541/07764 897411 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Spinnies, Aberogwen SH 613 721 (8 erw)