Bryncyn calchfaen gyda golygfeydd o Ddyffryn Clwyd ac amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.
Mae Y Graig yn allgraig galchfaen fechan mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. O gopa'r graig, ceir golygfeydd gwych dros Ddyffryn Clwyd. Prynodd YNGC y safle yn 1987 i warchod y glaswelltir calchaidd, y coetir a'r allgreigiau calchfaen. Mae glaswelltir calchfaen y Graig yn hafan gyfoethog i fywyd gwyllt a glöynnod byw.

Saif y warchodfa hanner milltir i'r de o Dremerchion, i'r dwyrain o Lanelwy. O'r A55, trowch i'r dde ar y B5429 am ddwy filltir. O'r A541, trowch i'r gogledd ym Modfari am ddwy filltir, gallwch barcio ar y ffordd, gyferbyn â Chapel Tremeirchion.

Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Graham Berry ar 01352 810469 neu drwy e-bost.


Gwarchodfeydd natur eraill YNGC >>







logo YGNC

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur


Y Graig SJ 086 721 (21 erw)