Prosiect ar y cyd yw hwn gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac yn cael ei gyllido gan Gyngor Sir Ynys Môn drwy gyfrwng Cronfa Ddatblygu Gynaladwy’r AHNE. Ei nod yw creu mwy o ymwybyddiaeth yn lleol o fioamrywiaeth a chadwraeth, drwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau yng ngwarchodfeydd natur arfordirol yr Ymddiriedolaeth a thrwy gynhyrchu deunydd gwybodaeth cysylltiedig.
Un elfen bwysig o’r prosiect yw cynnwys ysgolion lleol mewn rhaglen o deithiau maes. Diben yr ymweliadau hyn yw galluogi i’r plant ddarganfod peth o’r cyfoeth o fywyd gwyllt a geir ar Ynys Môn a helpu i’w osod yng nghyd-destun yr amgylchedd ehangach. |