Addysg

Gyda chefnogaeth Cronfa Datblygiad Cynaladwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn, mae YNGC wedi bod yn gweithredu prosiect yn dwyn yr enw Morwenoliaid, Llanwau a Phobl, ac mae rhan o hwnnw’n cynnwys rhaglen addysgol yng ngwarchodfa natur Cemlyn.

Dechreuwyd ar y prosiect fis Tachwedd 2003, pan benodwyd Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt cyntaf yr Ymddiriedolaeth, Ageliki Politis, er mwyn gweithredu (ymhlith pethau eraill) nifer o deithiau maes gan ysgolion i Gemlyn. Yr amcan oedd creu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith plant lleol o bwysigrwydd bioamrywiaeth a chadwraeth drwy eu galluogi i archwilio'r cynefin unigryw hwn. Penodwyd Ben Stammers i'r swydd fis Mai 2004 ac yn ystod yr haf, bu mwy na 200 o blant o 10 ysgol gynradd leol yn ymweld i'r safle ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol.

Roedd y prosiect yn ceisio cysylltu â phynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol, fel Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Hanes, Saesneg ac AG, a darparu sylfaen ar gyfer gwaith parhaus yn yr ystafell ddosbarth. Sicrhawyd cyswllt yn aml rhwng y pynciau amrywiol hyn â themâu cyffredinol yr amgylchedd, mewn ymdrech gydwybodol i annog disgyblion i feddwl am eu perthynas â'u hamgylchedd.

Roedd y gweithgareddau'n cynnwys arolygu cynefinoedd, gyda'r disgyblion yn cofnodi gwahanol rywogaethau, yn ymchwilio i fywyd gwyllt y lagŵn a'r glannau gan ddefnyddio rhwydi, yn gwylio'r morwenoliaid ac yn cymryd rhan mewn ymarferion a oedd yn canolbwyntio ar sylwi ar eu hamgylchedd gan ddefnyddio eu synhwyrau. Mewn rhai achosion, aeth y Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt a'r athrawon maes i ysgolion i sgwrsio a dangos sleidiau i blant ac i annog ymarferion ysgrifenedig a rhyngweithiol yn yr ystafell ddosbarth.

Am fanylion pellach am y gweithgareddau hyn, gweler y Grid Awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau i ysgolion.
(word file 44k) (pdf file 64k)


Ymestynnol

Mae’r prosiect Morwenoliaid, Llanwau a Phobl hefyd yn cynnwys addysg gyffredinol, creu ymwybyddiaeth ac ymestyn allan i’r gymuned leol. Trefnwyd gweithgareddau ar ac oddi ar y safle, fel teithiau tywys ar gyfer clybiau ieuenctid a’r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghemlyn a chynrychiolwyd y prosiect yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2004 ac yn Sioe Môn a Diwrnod Hwyl Cymunedol yr Wylfa. Cynhaliwyd sgyrsiau a sleidiau hefyd, ar gyfer adran o’r Urdd ac i Brifysgol y 3edd Oes.

Mae’r Swyddog Pobl a Bywyd Gwyllt yn gobeithio ymestyn y gwaith hwn ac mae’n awyddus iawn i glywed gan unrhyw sefydliadau neu grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn gweithgareddau ar neu oddi ar y safle.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Ben Stammers
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
376 Stryd Fawr
Bangor
Gwynedd
LL57 1YE

Ffôn: 01248 351541
ebost: nwwt@wildlifetrustswales.org

 

Astudiaeth gynefin efo hwla-hwp
Ben Stammers
Grŵp Ysgol
Ben Stammers
Gwirfoddolwyr a staff YNGC
Age Concern
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan snappydragon