Gwarchodfa Natur Genedlaethol gyda mign, glaswelltir a rhostir ac amrywiaeth eang o flodau ac anifeiliaid gwyllt.
Mae Cors Goch yn enwog am ei siglen galchaidd a'i rhostir asidig ac ar y tir hwn ceir llawer o rywogaethau prin o blanhigion. Mae Cors Goch yn fign gyfoethog. Yn 1964, wedi prynu daliadaeth tair fferm, ffurfiwyd YNGC. Mae'r rhain wedi cael eu hymestyn ers hynny i ffurfio'r warchodfa a welwch chi heddiw. Mae ei phwysigrwydd rhyngwladol wedi'i gydnabod erbyn hyn.
Dilynwch yr A5025 i'r gyffordd ryw 1.5 milltir i'r gogledd o Bentraeth. Ar y chwith gwelir troad am Lanbedrgoch. Ryw filltir y tu hwnt i'r pentref, gadewch eich car yn y gilfan ar y chwith, ychydig i'r gogledd o'r trac yn arwain i'r warchodfa.
Llwythwch gopi o daflen lawn y warchodfa (pdf 864k) gyda map o'r safle a llawer mwy o wybodaeth.
Llwythwch gopi o daflen dechnegol (742k), sy'n cynnwys disgrifiad manwl o ddaeareg Cors Goch.
Am wybodaeth bellach am y warchodfa hon, cysylltwch â Chris Wynne ar 01248 351541 neu 07764 897411 neu drwy e-bost.
I weld map o union leoliad y warchodfa, a'r llwybrau beicio gerllaw, cliciwch ar gyswllt yr NCN>> sydd wedi'i ddarparu gan 'Sustrans'
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Gwarchodfa Natur
Cors Goch SH 503 817 (167 erw)