photos of education

Addysg & Allgymorth

Nod y prosiect yw creu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith plant lleol o bwysigrwydd bioamrywiaeth a chadwraeth drwy eu galluogi i archwilio amrywiaeth o gynefinoedd bywyd gwyllt unigryw yn lleol, ar garreg eu drws.

 

Mae cyswllt rhwng y prosiect a meysydd y Cwricwlwm Cenedlaethol sy’n cael sylw mewn pynciau fel Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth, Hanes, Saesneg ac Addysg Grefyddol ac mae’n sail ar gyfer gwaith pellach yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyswllt yn aml rhwng y pynciau amrywiol hyn â themâu amgylcheddol cyffredinol, mewn ymgais gydwybodol i annog disgyblion i feddwl am eu perthynas â’u hamgylchedd.

 

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cynnal arolygon ar gynefinoedd, gyda’r disgyblion yn cofnodi gwahanol rywogaethau ar hyd llinell o samplau (fel mewn trawslun ecolegol), yn ymchwilio i fywyd gwyllt y lag?n a’r lan gan ddefnyddio rhwydi ac yn gwylio’r boblogaeth o forwenoliaid drwy sbienddrych. Mae ymarferion celf yn canolbwyntio ar ddehongli’r amgylchfyd gan ddefnyddio’r synhwyrau ac yn annog y disgyblion i archwilio, gan ddefnyddio deunyddiau y ceir hyd iddynt ar y traeth, i greu eu dyluniadau 3D eu hunain.

 

Mewn rhai achosion, gall y Swyddogion Pobl a Bywyd Gwyllt ymweld ag ysgolion i gyflwyno sgyrsiau a symbylu ymarferion ysgrifenedig neu ryngweithiol yn yr ystafell ddosbarth.

Adnoddau

Am ragor o fanylion am y gweithgareddau hyn a gwybodaeth gefndir am y gwarchodfeydd, y cynefinoedd a’r bywyd gwyllt, lawrlwythwch yr adnoddau isod.

Allgymorth

Mae prosiect y Warchodfa Natur Arfordirol hefyd yn cynnwys addysg gyffredinol, creu mwy o ymwybyddiaeth ac allgymorth i’r gymuned leol. Mae gweithgareddau wedi cael eu trefnu yn y warchodfa a’r tu allan iddi – cafwyd Cyfrif o Greaduriaid Cemlyn fis Mehefin 2010 ac mae teithiau tywys wedi cael eu trefnu hefyd ar gyfer y cyhoedd ac ar gyfer clybiau ieuenctid a gr?p o bobl ag anawsterau dysgu o ganolfan ddydd. Mae’r prosiect wedi cael ei gynrychioli yn Sioe Môn ac yn Niwrnod Hwyl Cymunedol Wylfa. Cynhaliwyd sgyrsiau gyda sleidiau hefyd ar gyfer grwpiau fel Yr Urdd, y Sgowtiaid a dwy gangen o Brifysgol y 3edd Oes.

 

Nod y Tîm Pobl a Bywyd Gwyllt yw ehangu amrywiaeth ei waith ac mae’n awyddus iawn i glywed gan unrhyw sefydliadau neu grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn gweithgareddau ar neu oddi ar y safle.


Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar 01248 351 541 neu ebostiwch: nwwt@wildlifetrustswales.org