
Sut i gymryd rhan
Mae arfordir Ynys Môn yn enwog am ei olygfeydd trawiadol a’i amrywiaeth rhagorol o fywyd gwyllt. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n cynnig sawl ffordd i chi gymryd rhan mewn helpu i warchod yr adnodd hwn a chreu mwy o ymwybyddiaeth am ei bwysigrwydd. Mae’r pwyslais ar gael pobl i gymryd rhan – yn rhyngweithio â’i gilydd ac yn mwynhau eu treftadaeth naturiol leol.
Fel gwirfoddolwr gyda Phrosiect y Gwarchodfeydd Natur Arfordirol, bydd y cyfleoedd yn amrywio gan ddibynnu ar y warchodfa a’r amser o’r flwyddyn. Dyma ganllaw bras (yn ôl lleoliad) ynghylch y posibiliadau:
Gwarchodfa Natur Cemlyn
Bydd y tymor yn dechrau gyda diwrnod agored i wirfoddolwyr fis Mawrth. Mae hwn yn gyfle gwych i gyfarfod â gweddill tîm Cemlyn a dysgu mwy am y gwaith, y warchodfa a’r bywyd gwyllt y dewch ar ei draws, gyda thaith dywys a ffeithlenni i wirfoddolwyr yn cael eu darparu hefyd.
Gwarchodfa Natur Mariandyrys
- Gweithio i gynnal amrywiaeth y glaswelltiroedd a’r rhostiroedd drwy glirio llwyni a ffensio
- Monitro ac arolygu’r rhywogaethau
- Helpu gyda digwyddiadau a chreu mwy o ymwybyddiaeth
Gwarchodfa Coed Porthamel
- Clirio llwyni
- Cynnal a chadw llwybrau a ffensys
- Llunio a gosod blychau adar ac ystlumod yn eu lle
Porth Diana a Bae Trearddur
- Helpu gyda digwyddiadau fel teithiau tywys a chlirio traethau
- Arolygon (yn cynnwys y Cor-Rosyn Rhuddfannog) a monitro
- Gweithio i gynnal amrywiaeth y glaswelltiroedd a’r rhostiroedd drwy glirio llwyni a ffensio
Trefnir gweithgorau drwy gydol y flwyddyn ac mae rhestr o’r digwyddiadau sydd i ddod yma. Mae gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar y gorwel i greu mwy o ymwybyddiaeth neu i gynnal gweithgareddau addysgol gydag amrywiaeth o grwpiau ar gael i wirfoddolwyr ychydig wythnosau ymlaen llaw.
Cysylltwch â Sam Bryan (ebost) neu ffoniwch 01248 351541 os hoffech gymryd rhan, neu am ragor o wybodaeth.


