Mae Prosiect Gwarchodfeydd Natur Arfordirol Ynys Môn yn helpu i ddathlu golygfeydd trawiadol ac amrywiaeth rhagorol y bywyd gwyllt sydd i’w ganfod ar arfordir enwog Ynys Môn.
Cefnogir y prosiect gan y Gronfa Datblygiad Cynaliadwy ac mae’n helpu i gysylltu pobl o bob oed â’u hamgylchedd lleol drwy gyfrwng digwyddiadau, addysg awyr agored a chyfleoedd gwirfoddoli allgymorth. Mae’r pwyslais ar gael pobl i gymryd rhan – yn rhyngweithio â’u hamgylchedd ac yn ei fwynhau.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Natur bedair gwarchodfa natur fel rhan o’r prosiect, gyda phob un oddi mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn neu o amgylch gwahanol rannau o’r ardal hon:

Gyda golygfeydd cwbl drawiadol o Ynys Seiriol, y Gogarth ac Eryri – lle rhagorol ar gyfer infertebrata, blodau gwyllt ac adar.

Coetir gollddail dawel a “gwyllt”, heb fod yn bell iawn ar droed o lwybr arfordirol cornel dde orllewinol Ynys Môn.
Porth Diana (Trearddur)
Tafliad carreg lan môr o Fae Trearddur a chartref i flodyn sirol Ynys Môn, y Cor–Rosyn Rhuddfannog eiddil.
Cemlyn (Cemaes)
Ar yr arfordir gogleddol gyda’i esgair ysgubol o ro mân ac amrywiaeth hyfryd o fywyd gwyllt, yn cynnwys poblogaeth bwysig o forwenoliaid yn ystod tymor yr haf. Wedi ymddangos ar SpringWatch 2009.
The Anglesey Coastal Nature Reserves Project
is supported by:


