Ariannwyd y prosiect hyn gan


ccw logo

welsh assembly government logo

Mammal Trust logo

hlf logo

chester zoo logo

sharp logo

first hydro logo

Prosiect y Pathew yng Ngogledd Cymru

Nod Prosiect y Pathew yng Ngogledd Cymru yw sicrhau ein bod yn deall yn well ble mae Pathewod y Cyll (Muscardinus arvellinarius) i'w cael ledled Gogledd Cymru, yn ogystal â chreu mwy o ymwybyddiaeth o'r pathew a'r materion sy'n effeithio arno.


Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod poblogaeth fawr o bathewod i'w chael yng Nghoed Bontuchel ger Rhuthun. Mae'r safle hwn wedi cael ei astudio am flynyddoedd lawer gan y Comisiwn Coedwigaeth, sy'n rheoli'r coed, ond yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae Partneriaeth y Pathew yng Ngogledd Cymru wedi dwysáu'r astudiaeth. Ar y safle hwn yn awr mae un o'r poblogaethau mwyaf i ni wybod amdanynt yn y DG ac mae pathewod unigol yn cael sglodyn micro'n systematig er mwyn i ni allu dysgu am eu symudiadau yn y coed.


Mae'r prosiect yn wir gyffrous a gobeithir iddo ein harwain at ddarganfod safleoedd pathewod newydd ar draws Gogledd Cymru.

Rhian Hughes
Swyddog Prosiect y Pathew

Mae Prosiect y Pathew yr Ymddiriedolaeth Natur yn ehangu ar y gwaith hwn drwy ddarganfod a oes pathewod yn bresennol yn rhan ddeheuol Coed Bontuchel ac yn y coed o amgylch. Cynhelir astudiaeth hefyd o'r coridorau bywyd gwyllt rhwng y coetiroedd hyn, a bydd hyn o gymorth i ni ddeall pa un ai yw'r pathewod yn symud rhwng y coetiroedd ynteu a yw pob poblogaeth yn ynysig.


Hefyd, bydd y prosiect yn edrych ar safleoedd eraill ledled Gogledd Cymru ble gall y pathew fod yn bresennol, gan ganolbwyntio ar safleoedd gyda chynefin addas i bathewod, a chadarnhau adroddiadau am bathewod gan y cyhoedd. Yn ogystal â safleoedd newydd posibl, bydd y prosiect hefyd o gymorth i gynyddu'r monitro mewn safleoedd eraill, ble rydym eisoes yn gwybod bod pathewod yn bresennol.


putting up dormouse nest boxes

Yn y llun uchod gwelir blwch pathew gyda nyth yn cael ei hailgodi ar y goeden cyn rhoi'r pathewod yn ôl yn y nyth drwy'r twll yng nghefn y blwch.

Cyllidir Prosiect y Pathew gan CCGC ac Ymddiriedolaeth y Mamaliaid yn y DG ac mae hynny wedi ein galluogi i gyflogi Rhian Hughes fel Swyddog Prosiect y Pathew ar gyfer Gogledd Cymru.


Mae gwaith Rhian yn cynnwys llunio a chodi blychau i bathewod, arolygyu'r blychau, astudiaethau cyswllt o'r coridorau bywyd gwyllt rhwng y safleoedd a hefyd mae'n ymweld â safleoedd ble all y cynefin fod yn addas i bathewod ac yn dilyn unrhyw gofnodion am weld y pathew. Hyd yma eleni, cynhaliwyd dwy helfa gnau, dwy gyda'r Comisiwn Coedwigaeth a dwy gyda Chyngor Sir y Fflint, a chynhaliwyd dwy sgwrs mewn llyfrgelloedd i greu mwy o ymwybyddiaeth o'r pathew.


Meddai Rhian, “Mae'r prosiect yn wir gyffrous a gobeithir iddo ein harwain at ddarganfod safleoedd pathewod newydd ar draws Gogledd Cymru. Mae'r prosiect yn wir gyffrous a gobeithir iddo ein harwain at ddarganfod safleoedd pathewod newydd ar draws Gogledd Cymru, ac am y tro cyntaf o bosibl ar Ynys Môn. Bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn deall yn well sut mae'r pathew yn symud o goetir i goetir a pha gynefin sy'n well ganddo. Dydw i byth yn diflasu ar agor y blychau, er fy mod wedi cael fy mrathu sawl gwaith!”