
Mae Pathew’r Cyll Muscardinus avellanarius yn bathew brodorol yn y DG. Mae’r pathew yn rhywogaeth prin, yn famal bychan gyda chôt lliw tywod, darn bach gwyn ar ei frest, cynffon flewog a llygaid duon mawr. Mae’n treulio mwyafrif ei amser mewn coed gan ddefnyddio ei draed crafangol i afael yn y canghennau. Mae pathewod yn gallu cylchdroi eu traed fel wiwerod, fel eu bod yn gallu rhedeg i lawr coed.
Yn ystod y gwanwyn, haf ac hydref mae pathewod yn gwneud nyth tebyg i bêl allan o risgal gwyddfid a dail.
Maent yn barod iawn i ddefnyddio blychau pathewod, ond mae safleoedd naturiol eu nythod naturiol nythod fod yn ffactor sydd yn cyfyngu poblogaethau pathewod, dyna paham mae’r nyth-flychau mor ddefnyddiol iddynt.
Sylwer:
Mae yna rywogaeth arall o bathew yn y DG, sef y Pathew tew Glis glis nad yw yn rhywogaeth frodorol. Mae’r Pathew tew, sydd ei ddarganfod yn Swydd Hertford, lawer mwy mewn maint na’r pathew cyffredin ac yn llwyd ran lliw. Mae ganddynt arferion gwahanol i’r pathew cyffredin ac nid yw’r tudalennau gwe hyn, o reidrwydd, yn cyfeirio atynt.
lluniau gan Danny Green
Mae’r pathew yn gaeafgysgu drwy gydol y gaeaf. Mae faint o amser mae’n ei dreulio’n gaeafgysgu’n amrywio gan ddibynnu ar y tywydd a hefyd ar y pathew unigol.
Bydd yr anifeiliaid mwy, a’r rhai hŷn yn gyffredinol, yn gaeafgysgu’n gynharach am nad yw mor anodd iddynt hwy gyrraedd y pwysau sydd ei angen ar gyfer goroesi drwy gydol y gaeaf. Fodd bynnag, mae’r rhai iau, yn arbennig y rhai a aned yn hwyr yn y tymor, yn ei chael yn anodd i fagu digon o stôr o fraster ar gyfer eu cynnal dros y gaeaf, ac felly hwy yw’r rhai olaf i aeafgysgu.
Mae gaeafgysgu'n dibynnu ar y tywydd hefyd, cynhesa'n byd yw'r gaeaf, hwyra'n y byd y bydd y pathewod yn gaeafgysgu. Mae'n well gan y pathew aeaf oer, byr, oherwydd wrth iddynt aeafgysgu, dim ond ychydig raddau uwch ben sero yw tymheredd eu corff a dim ond ryw ychydig o weithiau bob munud mae eu calon yn curo, ond ni allant ostwng eu tymheredd i fod yn is na'r tymheredd o'u hamgylch. Pan mae'n fwyn, mae tymheredd y corff yn uwch, felly nid ydynt yn gallu arafu eu metaboliaeth cystal, gan arwain at ddefnyddio mwy ar eu cronfeydd o fraster ar eu cyrff a deffro'n gynt.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r DG wedi bod yn cael gaeafau cynhesach ac mae hyn wedi peri i'r pathewod ddeffro'n gynt. Fodd bynnag, mewn sawl blwyddyn, cafwyd cyfnod oer wedi i'r pathew orffen gaeafgysgu ac mae hyn yn gallu profi'n angheuol iddo. Maent yn dechrau gaeafgysgu yn ystod mis Hydref / Rhagfyr fel rheol ac yn aros felly tan fis Chwefror / Mawrth.
Yn ystod cyfnodau oerach misoedd yr haf, mae'r pathew yn lled-aeafgysgu, mewn cyflwr a elwir yn gysgadrwydd. Bryd hynny mae'r pathew yn gostwng ei fetaboliaeth i arbed ei gronfa o fraster. Mae'n ymddangos na fydd y benywod beichiog yn ymroi i gysgadrwydd oherwydd eu bod eisiau cadw'n gynnes efallai, i fwydo'r rhai bach sy'n datblygu.


