
Dosbarthiad y Pathew Cyffredin yn y DG
Mae pathewod i’w canfod yn ne’r DG yn bennaf, ond fe’u ceir hefyd mewn poblogaethau gwasgaredig wrth symud tua’r gogledd, gyda phoblogaeth eang ger Rhuthun. Ymhlith y poblogaethau lleol eraill mae’r un yn Nyffryn Chwiler yn Sir y Fflint, Bontuchel yn Sir Ddinbych, Conwy a Chorris. Ni cheir pathewod yn yr Alban nac yn Iwerddon. Ceir pathewod ar gyfandir Ewrop hefyd.
Y Gyfraith
Mae’r pathew wedi’i warchod dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gan fod ei nifer a’i ddosbarthiad wedi dirywio i o leiaf hanner yn ystod y can mlynedd diwethaf. Mae trin neu darfu ar bathewod yn drosedd oni bai mai person trwyddedig wedi’i hyfforddi sy’n gwneud hynny. Dyfernir trwyddedau gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yng Nghymru.



