Y Newyddion Diweddaraf (diweddarwyd Mehefin 2010)


Gweld map mwy
Arolygon a Safleoedd

Mae gwaith yn rhoi sylw i bathew y cyll wedi cael ei wneud ledled Gogledd Cymru er 2007. Yn ystod y cyfnod hwn, mae mwy na 900 o flychau i’r pathew wedi’u codi ac mae 14 o leoliadau newydd ar gyfer y pathew wedi’u canfod. Mae blychau yn eu lle ym mwyafrif y lleoliadau newydd yn awr ac maent yn cael eu monitro’n rheolaidd.


Gwaith ar y Cynefin

Yn ogystal â chwilio am safleoedd newydd a chynnal arolygon, mae llawer o waith arall wedi cael ei wneud er mwyn creu mwy o ymwybyddiaeth o’r pathew a, hefyd, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rheolwyd y cynefinoedd er mwyn eu gwella i’r pathew.


Plannu Gwrychoedd

Mae’r gwaith wedi cynnwys ffensio mannau a phlannu gwrychoedd rhwng Coed Fron Wyllt a’r coetiroedd o amgylch, gan ein bod yn gwybod bod y pathew yn byw ynddynt. Ymhen amser, y gobaith yw y bydd hyn yn creu “priffordd" i’r pathew.


photo of volunteers Gwaith yn y coetiroedd

Y gwaith arall a wnaed ar y cynefinoedd oedd gwella tair coetir o amgylch Dyffryn Chwiler. Roedd hyn yn cynnwys creu llannerch a theneuo dipyn ar y coetiroedd. Mae creu’r llannerch wedi agor gofod yn y coetir a fydd yn galluogi mwy o olau i gyrraedd llawr y coetir a chaniatáu adfywiad naturiol.

Roedd y coetir, sydd wedi’i theneuo, yn goedlan wedi’i hesgeuluso, heb ei theneuo ers blynyddoedd lawer a heb i ni ymgymryd â’r gwaith rheoli, byddai llawer o’r stolion wedi pydru ac wedi’u colli.


Creu mwy o ymwybyddiaeth

photo of kidsDrwy gydol y prosiect hwn, cynhaliwyd sawl digwyddiad ar gyfer gwahanol oedrannau a grwpiau, o gyrsiau a gweithgareddau gyda grwpiau ysgol, mynychu sioeau, teithiau cerdded gyda’r deillion a’r rhai sy’n dysgu’r Gymraeg a dyddiau hyfforddi’r pathew. Mynychwyd y rhain gan lawer o bobl o wahanol oedran ac ysbrydolwyd llawer ohonynt gan y pathew.


Cynhyrchwyd cerdyn post y pathew hefyd a’i anfon at bobl yn byw yn agos at safleoedd posibl ar gyfer y mamal, er mwyn creu mwy o ymwybyddiaeth a dangos yr arwyddion o bresenoldeb y pathew. Roedd hyn yn llwyddiannus iawn, gan arwain at dderbyn nifer o gofnodion.

Gallwch lawrlwytho'r cerdyn post (.pdf 3MB) isod ac anfon eich cofnodion atom os ydych yn meddwl bod gennych bathew yn byw yn agos atoch chi.

dormouse postcard  dormouse postcard back