
llun gan Rhian Hughes
Mae pathewod yn gallu byw'n gymharol hir i famal bychan, hyd at 4-5 mlynedd. Mae'r tymor magu rhwng mis Mehefin a mis Medi ac maent yn geni tua 4-5 o rai bach fel rheol. Ond fe all hyn newid, yn enwedig mewn blynyddoedd gyda chyflenwad da o fwyd. Mae'r rhai ieuainc yn aros gyda'u mam am hyd at 8 wythnos cyn gadael y nyth. Fel rheol, mae'r pathew yn geni dau griw o rai bach bob blwyddyn, un ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf a'r ail fis Medi.
Bwyd
Mae’r pathew yn dibynnu ar gynefin gydag amrywiaeth eang o fwyd. Mae’r pathew yn bwydo ar wahanol ffynonellau bwyd ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Y ffynhonnell fwyd amlycaf yw cnau cyll, a fwytir cyn i’r pathew aeafgysgu, gan ddarparu llawer o egni ar gyfer y stôr o fraster dros y gaeaf. Ceir llawer o fwydydd eraill y mae’r pathew’n dibynnu arno, yn cynnwys gwyddfid (mae’n defnyddio rhisgl hwn fel elfen bwysig i lunio ei nyth hefyd), mieri (y blodau a’r ffrwythau) a thrychfilod.

Cnau cyll a agorir gan famaliaid bychain
Mae’r darluniau, sy’n dilyn, yn dangos y gwahaniaeth yn y cnau cyll sydd wedi ei hepgor gan y pathew a gan mamaliaid bach eraill.
Mae cnau cyll sydd yn edrych fel pe tasant wedi ei 'hollti' neu wedi ei pigo yn agored, fel rheol, yn ganlyniad i wiwerod llwyd neu i delor y cnau.

Y Pathew
Mae arwyneb mewnol y twll yn llyfn gydag olion dannedd o amgylch y tu allan. Mae’r twll yn grwn iawn fel rheol ac yn cynnwys pen sylfaen y gragen.

Llygoden y Maes
Olion dannedd ar du mewn ac o amgylch tu allan y twll. Y twll weithiau ag ymylon igam-ogam.

Llygoden Goch
Olion dannedd ar du mewn y twll heb unrhyw olion ar du allan y gragen.
Lluniau
Jan Whittington 2007


