Cymryd Rhan

If you would like to get involved with this project, making and placing dormice boxes, surveying for dormice, participating in dormouse nut hunts (see below) or taking part in wildlife connectivity studies please contact the North Wales Wildlife Trust on 01352 810469 or email Rhian Hughes - rhianhughes@wildlifetrustswales.org
Helfeydd Cnau’r Pathew
Rydym angen eich cymorth chi er mwyn canfod ble’n union mae’r pathew yn bresennol yng Ngogledd Cymru.
Gan nad yw’n hawdd gweld y pathew, y ffordd hawsaf i ddarganfod safleoedd newydd i’r creadur yma yw drwy chwilio am arwyddion ohono, fel y marciau nodweddiadol mae’r pathew yn ei adael ar gnau cyll. Mae hyn yn ein galluogi i benderfynu pa un ai agorwyd y gneuen gan bathew neu gan famal bychan arall.
Ceir safleoedd ar hyd a lled Gogledd Cymru ble rydym yn credu ei bod yn werth chwilio ynddynt, naill ai am eu bod yn agos at safle presennol i’r pathew, am eu bod mewn ardal eang o goetir neu am eu bod wedi cael eu hawgrymu fel safleoedd posibl. Mae’r safleoedd hyn wedi’u marcio ar y map isod. Os nad yw’r cyfeirnodau grid yn benodol, byddem yn croesawu eich adroddiadau am helfeydd o’r ardal gyffredinol.
Os oes gennych goedwig leol yr hoffech ei harolygu, mae croeso i chi wneud hynny ac yna anfon eich canlyniadau at Rhian Hughes yn Swyddfa Tafarn-y-gelyn.
- Dewiswch goedwig leol gyda choed cyll yn dwyn ffrwythau’n bresennol ynddi, neu dewiswch un oddi ar y map isod.
- Gofynnwch i’r perchennog tir am ganiatâd (cofiwch roi gwybod i ni am fanylion y perchennog tir).
- Os yn trefnu ar gyfer gr?p, cofiwch gynnal asesiad risg. Gallwch lawrlwytho sampl o asesiad risg yma.
- Lawrlwythwch y Canllaw Hel Cnau (pdf 168k) am wybodaeth bellach ynghylch cael hyd i arwyddion o’r pathew a sut i roi gwybod am eich darganfyddiadu.
- Ewch i hela cnau!!
View Larger Map
![]() |
sites in Gwynedd | ![]() |
sites in Denbighshire |
![]() |
sites in Meirionnydd | ![]() |
sites in Flintshire |
![]() |
sites in Conwy | ![]() |
sites in Wrexham |
![]() |
surveyed site - please contact us |


