Newyddion, Digwyddiadau a Chofnodi Bywyd Gwyllt yng Nghemlyn
Diweddarwyd ddiwethaf - Mis Tachwedd 2012

Crynodeb 2012

Tymor llwyddiannus arall gyda lleiafswm o 1000 o gywion y Forwennol Bigddu wedi hedfan y nyth gan gyfanswm o 2051 o barau magu.  Mae hyn yn gynnydd o 17% ar y ffigur a amcangyfrifwyd yn 2011.                  

Gwelwyd cynnydd yn niferoedd y Morwenoliaid Cyffredin o gymharu â 2011 hefyd, gyda 197 eleni, 147 ar yr Ynys Fechan a 50 ar yr Ynys Fawr. Er hynny, roedd y cynhyrchiant magu’n wael iawn gyda dim ond ychydig iawn o gywion yn deor, oherwydd y tywydd gwael parhaus drwy gydol misoedd Mai a Mehefin. Yr amcangyfrif oedd mai dim ond 20 o gywion lwyddodd i hedfan y nyth. Roedd y nifer o Forwenoliaid y Gogledd yr un fath â’r llynedd yn fras, gyda 40 o barau. Unwaith eto, cymedrol oedd y cynhyrchiant oherwydd y tywydd ac amcangyfrifir mai 15 o gywion unigol lwyddodd i hedfan y nyth.

Magodd 386 o barau o Wylanod Penddu ar yr ynysoedd a nifer fawr, 129, ar yr Ynys Fechan. Mae hyn yr un faint yn union bron â ffigurau 2011. Aeth rhai yn ysglyfaeth i’r gwylanod, wrth i’r cywion ddeor, ond nid nifer sylweddol. Llwyddodd amcangyfrif o 300 o leiaf o gywion ifanc i hedfan y nyth. Er mawr siom, ni ddychwelodd Gwylanod Môr y Canoldir i fagu yma eleni, gyda dim ond un aderyn gwryw yn bresennol drwy gydol y tymor.

Roedd yr amodau ar gyfer magu’n llwyddiannus yn wael iawn i’r rhywogaethau i gyd eleni. Roedd y tywydd yn oer a gwlyb iawn yn ystod mis Ebrill, gyda chyfnodau hir o wynt a glaw trwm drwy gydol misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf. Gwaetha’r modd, adlewyrchwyd hyn yng nghyfraddau magu gwael y rhan fwyaf o’r adar yn y warchodfa.

Cofnodwyd 336 o rywogaethau o ffawna yn y warchodfa neu o’i hamgylch yn ystod y tymor. Mae’r ffigur hwn yn cynnwys 132 o adar; 16 o famaliaid; 4 o ymlusgiaid ac amffibiaid; 13 o bysgod a 171 o rywogaethau o infertebrata. Hefyd cofnodwyd 33 o rywogaethau o fflora a ffawna ar drawsluniau o’r Traeth Creigiog.
Gwyliwyd y môr yn achlysurol. Cofnodwyd yr holl famaliaid, yr ymlusgiaid, yr amffibiaid a’r infertebrata. Gwnaed trawsluniau glöynnod byw a chynhaliwyd sesiynau dal gwyfynod.         

Cadwyd cofnodion dyddiol o’r tywydd yng nghofnod y wardeiniaid.         
Roedd nifer yr ymwelwyr a’r rhoddion yn sylweddol uwch na’r flwyddyn flaenorol, sy’n syndod o ystyried y tywydd drwg a gafwyd.

 

photo of thrift at cemlyn
 

 

Summary 2010 (word.doc)

 

Summary 2011 (word.doc)

 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan antenna creative