Gwirfoddolwyr

Mae rheolaeth o ddydd i ddydd Cemlyn, fel pob un o warchodfeydd YNGC, yn dibynnu nid yn unig ar staff YNGC ond hefyd cymorth y rhai sy'n fodlon rhoi eu hamser a'u harbenigedd yn rhad ac am ddim.

Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau ymarferol o amgylch y warchodfa, e.e. rheoli lefel y dŵr yn y lagŵn drwy ddefnyddio boncyffion atal, casglu blychau nythu'r morwenoliaid ar derfyn bob tymor a gwaith rheoli achlysurol ar y cynefinoedd.

Maent hefyd yn staff wrth gefn i’r ddau warden haf a gyflogir yn y warchodfa rhwng misoedd Ebrill ac Awst. Mae goruchwylio’r safle gwylio morwenoliaid, sydd fel arfer yn cynnwys sgwrsio ag ymwelwyr a chadw llygad ar yr adar, yn rhoi cyfle i’r wardeniaid gyflawni tasgau eraill, neu gymryd gwyliau.

Cyswllt â thudalen gwirfoddoli Ymddiriedolaeth Natur Cymru (Saesneg)
neu
Gallwch lawr-lwytho taflen gwirfoddoli warden yr Haf yng Nghemlyn.


 
 
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan antenna creative