Cemlyn trwy'r Tymhorau

Gwanwyn
Byddwn yn gwybod bod y gwanwyn wedi cyrraedd Cemlyn pan welwn Dinwen y Garn yn glanio ar Drwyn Cemlyn neu pan fydd Aderyn Drycin Manaw yn gwneud ei ffordd drwy’r tonnau allan i’r môr neu’r Forwennol Bigddu gyntaf yn galw yn y Bae – mae hyn i gyd yn bosibl o fis Mawrth ymlaen. Yn ddiweddarach, gwelwn liw y gwanwyn yn y glaswellt dan ein traed o amgylch y warchodfa wrth i Seren y Gwanwyn a Chlustog Fair droi’r ddaear yn las a phinc. Fe all yr ysbeidiau heulog cyntaf ddenu’r Madfall Cyffredin a’r Gwiberod allan i dorheulo hefyd. Erbyn canol Mai, bydd modd gweld a chlywed amrywiaeth o adar o amgylch y warchodfa, yn cynnwys y morwenoliaid ddaw i setlo ar ynysoedd y lagŵn, y Llwydfron a Thelor yr Hesg yn canu yn y prysgwydd ac ar ymyl y dŵr, y Coegylfinir yn chwilio am fwyd ar hyd y glannau creigiog a’r rhydwyr eraill, fel Pibydd y Mawn a’r Rhostog Gynffonddu, ar y traeth neu yn y lagŵn.

Haf
Mae prysurdeb mawr ar ynysoedd y lagŵn yn yr haf gyda'r Morwenoliaid a'r Gwylanod Penddu'n defnyddio pob awr o olau dydd i gludo bwyd i'r cywion sy'n tyfu mwy a mwy bob dydd. Mae gweld, clywed ac arogli cynnwrf yr adar yr adeg yma o'r flwyddyn yn brofiad cofiadwy yng Nghemlyn. Misoedd Mehefin a Gorffennaf yw'r adeg i weld Bresych y Môr yn llawn blodau ac i weld y Pabi Corniog Melyn a'r Gludlys Arfor ar hyd yr esgair - a bydd Pioden y Môr a'r Cwtiad Torchog yn nythu ar y cerrig mân yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Ar y Trwyn, cadwch lygad am y Tresgl a blodau pinc tywyll y Ganrhi Goch, yn ogystal ï'r glöynnod byw lliwgar fel y Gweundir Bach a'r Glesyn Cyffredin sy'n hedfan heibio. Cadwch lygad hefyd am y chwilen ddail goch a gwyrdd, Chrysolina polita ar yr Helyg Bach ar hyd Trwyn Pencarreg.

Hydref
Fel rheol, mae cywion y morwenoliaid wedi hedfan o’r nyth erbyn canol Awst, yn barod i ddechrau ar eu taith hir tua’r de i aeafu ar arfordir Affrica, felly erbyn dechrau’r hydref, mae’r ynysoedd yn rhyfedd o dawel. Daw bywyd gwyllt arall i gymryd eu lle serch hynny – heidiau o’r Cwtiad Aur a rhydwyr eraill, fel y Cornchwiglod a’r Gylfinirod. Bydd llanwau uchel yr hydref yn datgelu bywyd diddorol y môr sy’n cuddio fel arfer ar gyrion isaf y traeth ac mae’r tywydd garw yr adeg yma’n dod ag amrywiaeth o adar môr sy’n mynd heibio’n agos i Drwyn Cemlyn – Adar Drycin Manaw, Huganod, Gwylanod Coesddu a’r Gwylog.

Gaeaf
Mae’r lagŵn yn adnodd pwysig i’r adar drwy gydol misoedd y gaeaf hefyd – gwelir yr Wyach Fach, yr Hwyaden Lydanbig a Hwyaden yr Eithin yn rheolaidd, ynghyd â’r Cwtiar a’r Chwiwell sydd hefyd yn pori ar y caeau o amgylch. Weithiau, ymunir â’r Crëyrod Mawr sy’n pysgota yn y lagŵn yng Nghemlyn drwy gydol y flwyddyn gan Grëyrod Bach yn gwibio hyd y dŵr bâs i ddal perdys. Hefyd, gwelir yr Hwyaden Frongoch a’r Wyach Fawr Gopog naill ai yn y lagŵn neu allan yn y Bae, tra ar y lan greigiog, fe all y mwyaf sylwgar yn ein plith weld Cwtiad y Traeth neu’r Pibydd Du yn chwilio am fwyd wrth ymyl y dŵr.

 


Morwennol y Gogledd ar bostyn
Ben Stammers

Pabi Corniog Melyn
Ben Stammers
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan snappydragon