Cyflwyniad i Gemlyn

Cemlyn yw un o warchodfeydd mwyaf nodedig Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac mae’n cael ei hystyried fel “yr em yng nghoron” ei Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gan Gyngor Sir Ynys Môn. Mae’n werthfawr oherwydd ei golygfeydd ac oherwydd yr amrywiaeth unigryw o fywyd gwyllt a geir yma, ac mae mor boblogaidd ymhlith ymwelwyr cyffredinol – pobl leol, pobl ar eu gwyliau, cerddwyr etc. ag yr ydyw ymhlith adarwyr a naturiaethwyr.

Saif y warchodfa ar arfordir gogleddol Ynys Môn, rhyw dair milltir i’r gorllewin o Gemaes. Mae’r tir, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond a brydlesir gan YNGC ers 1971, yn cynnwys lagŵn mawr, wedi’i wahanu oddi wrth y môr gan esgair naturiol a thrawiadol o gerrrig mân.

Ffurfiwyd yr esgair, a elwir yn Esgair Gemlyn, gan y cerrig mân a’r broc môr sy’n cael eu cario i mewn gan y môr ac mae ei phroffil yn newid, gan ddibynnu ar y llanw a’r tywydd. Mae’r nodwedd ddaearyddol unigryw hon yn gynefin i blanhigion arfordirol diddorol, fel Bresych y Môr, Gludlys Arfor a’r Pabi Corniog Melyn.

Yn yr haf, mae’r lagŵn yn gartref i fywyd gwyllt enwocaf Cemlyn. I’w gweld yn glystyrau ar yr ynysoedd yn y dŵr hallt mae coloni mawr o adar môr rhyngwladol bwysig, yn cynnwys Morwenoliaid Cyffredin a Morwenoliaid y Gogledd, sy’n magu, ac un o nytheidiau mwyaf y DG o’r Morwenoliaid Pigddu. O’r safle ar gyfer gwylio’r morwenoliaid ar yr esgair, mae ymwelwyr yn gallu mwynhau’r adar prin a hardd hyn yn agos – yn dilyn ei gilydd ac yn deifio mewn arddangosfeydd carwriaethol; yn deor wyau; yn twtio’u plu ac yn ymolchi yn y lagŵn neu’n galw ar eu cywion llwglyd wrth iddynt hedfan at y nyth gyda physgod ffres yn eu pig.

O amgylch yr warchodfa, ceir hefyd ardaloedd o laswelltir arfordirol, tir amaethyddol, prysgwydd, gwlybdiroedd a thraeth creigiog a thywod yn amgylchynu Bae Cemlyn. Mae’r rhain yn gartref i gyfoeth o fywyd gwyllt – adar, mamaliaid, pryfed, blodau gwyllt a chreaduriaid morol sydd, ynghyd â’r coloni o forwenoliaid, yn cynnig ecosystem ryfeddol: ‘ystafell ddosbarth awyr agored’ ddelfrydol ar gyfer astudio bioamrywiaeth.

Yn ychwanegol at fod yn warchodfa gan yr Ymddiriedolaeth Natur, mae Cemlyn yn Ardal dan Warchodaeth Arbennig, yn ymgeisydd i fod yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol* Ynys Môn.

Am fwy o wybodaeth am safleoedd a warchodwyd : Cyngor Cefn Gwlad
Am fwy o wybodaeth yng nglyn â Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn


 

 


Diweddariad o Gemlyn
Newyddion, Digwyddiadau a Bywyd Gwyllt a welwyd yno

Golygfa o’r Esgair
YNGC
Y warchodfa o’r awyr
Cyngor Cefn Gwlad
 

 
cemlyn interpretation panel
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan antenna creative