English
 

Hanes y warchodfa

Mae llawer o hanes Cemlyn fel safle bywyd gwyllt yn mynd law yn llaw â stori Capten Vivian Hewitt, a ddaeth i'r ardal yn y 1930au a setlo ym Mryn Aber, y tŷ mawr sydd i'w weld yn amlwg ym mhen gorllewinol y warchodfa. Prynodd lawer o'r tir o'i amgylch. Yn egsentrig cyfoethog iawn, oherwydd ei ddiddordeb mewn adar, cododd argae a chored yng Nghemlyn, gan ffeirio’r gors halen lanwol am lagŵn mawr, parhaol, yn lloches yn ei farn ef i adar gwyllt. Hefyd, roedd ganddo gynllun i feithrin coetir ar dir Bryn Aber, i ddenu adar llai. Felly, dechreuodd adeiladu wal ddwbl fawr ar gyfer gwarchod y coed rhag y gwynt ac er mwyn gallu gwylio’r adar - roedd tyllau gwylio yn y bwlch rhwng y ddwy wal. Ni chwblhawyd y cynllun pellach i roi cerrig wedi'u sgleinio ar ben y waliau ac wedi marwolaeth Capten Hewitt, gadawyd ei dŷ i deulu ei howscipar, ond mae'r waliau yn aros ac yn creu rhyw ddirgelwch o amgylch y safle ac yn rhoi rhyw bresenoldeb iddo.

Hanes y lagŵn sydd bwysicaf i fywyd gwyllt fodd bynnag. Mae'r newid o gynefin llanwol a arferai sychu'n rheolaidd yn yr haf i gorff sefydlog o ddŵr yn cynnwys ynysoedd bychain wedi darparu safleoedd nythu ar gyfer y morwenoliaid ac maent yn llai atyniadol i ysglyfaethwyr y tir. Yn ystod y degawdau a ddilynodd, gwnaed sawl newid i’r lagŵn - rhai yn naturiol, ee, stormydd yn ysgubo drosto - a rhai o wneuthuriad dyn, ee, ailadeiladu'r gored a chreu neu gael gwared ar ynysoedd. Mae lefel y dŵr a'r halen yn y lagŵn yn cael eu monitro yn awr er mwyn cynnal cynefin delfrydol ar gyfer y morwenoliaid a'r bywyd gwyllt arall.

Flwyddyn neu ddwy wedi marwolaeth Capten Hewitt, prynwyd stad Cemlyn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ers 1971, maent wedi prydlesu'r tir o amgylch y lagŵn i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sy'n ei reoli fel gwarchodfa natur. Mae'r ddau sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth i wella a chynnal y safle ar gyfer bywyd gwyllt a'r cyhoedd.

Mae’r warchodfa wedi cael warden bob haf ers 1981, gyda dau warden yn cael eu cyflogi bob tymor ers 1997. Gyda chymorth nifer o wirfoddolwyr, mae eu gwaith wedi cynnwys monitro llwyddiant magu'r morwenoliaid yn fanwl, gwarchod yr heidiau rhag amrywiaeth o ysglyfaethwyr naturiol (ac mewn achos neu ddau, rhag casglwyr wyau anghyfreithlon), a chofnodi ffurfiau eraill ar fywyd gwyllt a darparu gwybodaeth i'r cyhoedd. Mae eu presenoldeb ar yr esgair ac o amgylch y warchodfa o gymorth i gynnal proffil Cemlyn fel safle pwysig a gwerthfawr yn genedlaethol.

Wylfa o Gemlyn, 1967
Jane Rees
Bryn Aber
YGNC
Symud bagiau tywod, 1974
Keith Hiscock
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan antenna creative