Ymweld âr warchodfa
Ceir arwydd am Gemlyn o Dregele ar yr A5025 rhwng Y Fali ac Amlwch. Er bod y ffyrdd i’r safle yn gul, ceir dau faes parcio yn ymyl y warchodfa (OS 1:50, 000 Dalen 114 ac Explorer 262. Cyf. grid SH329936 a SH336932).

Mae'r warchodfa ar agor drwy gydol y flwyddyn ac mae'r mynediad yn rhad ac am ddim.

Gellir trefnu ymweliadau gan grwpiau drwy wneud apwyntiad.
For more information, gweler Ymestynnol ac Addysg


Teithiau braf o amgylch Cemlyn

Dyma rai teithiau cerdded poblogaidd o amgylch y warchodfa, yn canolbwyntio’n bennaf ar fywyd gwyllt a nodweddion y tirlun.


Esgair Gemlyn
Gellir cyrraedd yr esgair o gerrig mân yng Nghemlyn o faes parcio’r traeth ym mhen dwyreiniol y warchodfa.
Er nad yw’r pellter ar hyd yr esgair i safle gwylio’r morwenoliaid gyferbyn â’r ynysoedd ond yn rhyw 0.5 km., mae’n werth cofio bod gofyn i ymwelwyr ddefnyddio ochr y môr i’r esgair yn unig yn ystod yr haf, ac mae’r cerrig mân yn gallu bod yn anodd iawn i gerdded arnynt. Mae’r llwybr o faes parcio Bryn Aber ar ochr orllewinol y lagŵn yn fyrrach, ond gwyliwch – mae’r llwybr sy’n cysylltu’r maes parcio â’r esgair yn gorlifo ryw awr neu fwy y naill ochr i’r llanw uchel, felly mae’n werth gwirio’r amseroedd rhag i chi fethu dod yn ôl. Yn ystod yr haf, efallai y bydd y wardeniaid wedi nodi amseroedd dyddiol y llanw ar fwrdd du yn ymyl y llwybr.
Pan nad yw’n dymor magu ar y morwenoliaid, mae ochr y lagŵn i’r esgair ar agor i’r cyhoedd ac mae’n gynefin diddorol i’w archwilio’n fanylach.

Trwyn Cemlyn
Mae’r penrhyn bychan hwn yn ffefryn ymhlith pobl leol sy’n hoffi dod yma am dro. Mae o fewn cyrraedd rhwydd i faes parcio Bryn Aber ac mae’n cynnwys glaswelltir arfordirol gyda darnau bychain o eithin a thraeth creigiog yn cynnig golygfeydd o’r Skerries i’r gorllewin, yr Wylfa i’r dwyrain ac, os yw’n glir iawn, Ynys Manaw weithiau i’r gogledd.
Mae’n lle da ar gyfer blodau gwyllt y gwanwyn a hefyd ar gyfer gwylio adar môr, morloi a llamhidyddion o dro i dro.
Mae hefyd yn cysylltu â llwybr troed arfordirol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i’r gorllewin.

Mornant y lagŵn
Mae’r bont gul ym mhen gorllewinol y lagŵn, ychydig cyn Bryn Aber, yn safle da i wylio ynysoedd y lagŵn os nad oes modd mynd ar yr esgair. Mae hefyd yn cynnig golygfeydd ar draws y fornant o ddŵr croyw a’r darn cyfagos o eithin a phrysgwydd a elwir yn Morfa. Nid oes maes parcio ar hyd y ffordd yn ochr y fornant sy’n arwain at fferm Ty’n Llan ond mae cerdded i lawr yn rhoi golygfeydd o ymylon corsiog y fornant a’r borfa wlyb o amgylch. Mae adar diddorol yn llechu yma ar adegau.

Llwybr yr arfordir tuag at yr Hen Borth
Mae Cemlyn ym mhen dwyreiniol llwybr troed arfordirol hir a hyfryd, sy’n gyfle i fwynhau nodweddion tirluniol garw arfordir gogledd Ynys Môn.
O'r gamfa ar ben Trwyn Cemlyn, mae'r llwybr yn arwain i'r warchodfa, i fyny heibio Craig yr Iwrch, craig sy'n ffefryn gan forloi, mulfrain a gylfinirod yn nythu, ac ar hyd y clogwyni, heibio fferm Ty'n Llan ar y chwith, i fae'r Hen Borth.
Efallai y bydd y cerddwyr mwyaf brwd yn eich plith yn dymuno dal i fynd ar hyd yr arfordir i Drwyn Carmel neu Ynys y Fydlyn, ac efallai y bydd eraill yn dymuno ymweld ag eglwys fechan Sant Rhwydrus, gan ddychwelyd drwy'r giât ger y fferm ac yn ôl heibio mornant y lagŵn.

Yr arfordir tua Phen yr Wylfa
Mae Trwyn Pencarreg – yr ardal o greigiau, glaswelltir a rhostir arfordirol i’r dwyrain o faes parcio’r Traeth yng Nghemlyn – yn ddiddorol am ei gymunedau o blanhigion, blodau gwyllt a phryfed ac am ei olygfeydd trawiadol yn ôl ar draws Bae Cemlyn. Gellir gwneud taith gylch drwy’r hen felin ym Melin Gafnan.


Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi creu llyfryn yn manylu ynghylch sawl taith gerdded gylch o amgylch neu yn dechrau yng Nghemlyn. Mae’n cynnwys llwybrau ar gyfer pob un o’r ardaloedd a ddisgrifir uchod a’r teithiau cerdded sy’n mynd â chi ymhellach.
I sicrhau copi, neu am wybodaeth bellach ynghylch teithiau cerdded eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ynys Môn, cysylltwch â:
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Sgwâr y Drindod, Llandudno, LL30 2DE

Gwylio morwenoliaid o’r Esgair
Ben Stammers

Bae Cemlyn o’r llwybr arfordirol
Ben Stammers
Thrift ar y Trwyn Cemlyn
Ben Stammers
Cemlyn Bay o'r Trwyn Pen Carreg
Ben Stammers
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan antenna creative