Bae Cemlyn o’r Llwybr Arfordirol

Mae yna amrywiaeth eang o fywyd gwyllt i ‘w gael ar Warchodfa Natur Cemlyn
Cliciwch ar y delweddau (ar y dde) i ddarganfod mwy…




 
Morwenoliaid
Adar
eraill
Anifeiliaid
eraill
Bywyd
tanddwr
Planhigion
           
 

Morwenoliaid
Mae tri rhywogaeth o forwenoliaid yn magu’n rheolaidd yng Nghemlyn. Mae nifer y Morwenoliaid Pigddu sy’n nythu ar yr ynysoedd yn y lagŵn wedi bod yn codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf nes bod yr haid yma yn un o’r rhai mwyaf yn y wlad.
Roedd yma fwy na 1500 o nythod yn 2004 a llwyddodd canran dda o’r cywion i hedfan y nyth. Mae’r Morwenoliaid Pigddu’n nythu mewn grwpiau dwys fel rheol ac maent fel pe baent yn elwa o fod yn agos at grwpiau o
Wylanod Penddu yn nythu. Mae’r rhain yn ymateb yn chwyrn i ysglyfaethwyr sy’n eu bygwth, ond dim ond aros yn llonydd ar eu nythod fydd y Morwenoliaid Pigddu. Mae’r Morwenoliaid Cyffredin yn nythu’n fwy gwasgaredig, mewn grwpiau a niferoedd llai, ar yr ynysoedd, ac felly hefyd Forwenoliaid y Gogledd.
Mae’r rhain yn gwneud siwrnai faith iawn o’r hemisffer deheuol i’r hemisffer gogleddol ac ynôl bob blwyddyn - dyma’r siwrnai hiraf i unrhyw aderyn mudo ei gwneud.
Roedd un o adar môr mwyaf prin Prydain, y
Forwennol Wridog yn arfer magu yng Nghemlyn ac fe’i gwelir yma weithiau wrth iddi fynd heibio. Felly hefyd yr adar prin eraill, fel y Forwennol Fach a'r Forwennol Ddu.

Y morwenoliaid yw prif ffocws y gwaith cadwriaethol yng Nghemlyn. Gan fod mwy a mwy o ymyrraeth â’u safleoedd magu traddodiadol, oherwydd mwy o fynediad a datblygiad mewn safleoedd arfordirol, mae nifer y morwenoliaid wedi gostwng yn draddodiadol ym Mhrydain, felly mae safleoedd fel Cemlyn, sydd â phoblogaethau iach o hyd, yn adnoddau gwerthfawr a phwysig yn genedlaethol.

Cyflogir dau warden gan YNGC yng Nghemlyn bob haf, i fonitro a gwarchod y morwenoliaid. Yn ogystal â delio ag ymyrraeth ac ysglyfaethwyr, maent yn cofnodi nifer y nythod, llwyddiant y cywion i adael y nyth a’r math o bysgod a ddygir i mewn gan y rhieni. Gall argaeledd pysgod, yn arbennig bwyd delfrydol y morwenoliaid, Llymrïaid, fod yn ffactor allweddol i dymor magu llwyddiannus. Er enghraifft, mae gorbysgota Llymrïaid yn ardal Ynysoedd y Shetland wedi cael effaith drychinebus ar gynhyrchiant Morwenoliaid y Gogledd yn yr ardal honno.

Mae’r morwenoliaid i gyd yn mudo dros y gaeaf a’r Morwenoliaid Pigddu a welir yma gyntaf fel rheol, tua diwedd Mawrth neu ddechrau Ebrill. Bydd mwyafrif oedolion magu pob rhywogaeth yn cyrraedd y safle tua mis Mai. Misoedd Mehefin a Gorffennaf yw’r rhai prysuraf i’r morwenoliaid ac mae’n amser da i ymweld â’r warchodfa, gan fod ynysoedd y lagŵn yn ferw gwyllt.
Erbyn canol Awst, bydd mwyafrif y cywion wedi hedfan y nyth ac yn barod i ymuno â’u rhieni ar y swrnai tua’r de dros y gaeaf - i arfordir Gorllewin Affrica yn achos mwyafrif y Morwenoliaid Cyffredin a Phigddu, ac yn bellach i’r de i Forwenoliaid y Gogledd.

 
Morwenoliaid Pigddu
YNGC
Morwenoliaid Cyffredin
Ben Stammers
 

Morwennol y Gogledd ar yr adain
Ben Stammers

 
Forwennol Wridog
Ben Stammers
   
Nythfa morwenoliaid o’r Esgair
YGNC
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan antenna creative