Anifeiliaid eraill
Yn aml iawn, gwelir Morloi Llwyd yn
y môr o amgylch Cemlyn, neu i fyny ar Graig yr Iwrch,
yr ynys greigiog oddi ar y Trwyn, a bydd Llamhidyddion yr
Harbwr yn bwydo weithiau yn agos at ben gorllewinol Bae Cemlyn.
Gellir gweld Ysgyfarnogod Brown
yn y warchodfa neu o'i chwmpas, yn croesi'r esgair wrth ir
wawr dorri neu wrth iddi nosi.
Mae Gwencïod a Charlymod yn
hela yn y gwrychoedd ar glaswelltir yng Nghemlyn ac
yn ystod yr haf, bydd Gwiberod a Medfyll Cyffredin iw
gweld yn torheulo yma.
Ceir amrywiaeth eang o bryfed yma
hefyd a gl·ynnod byw fel I¥r Fach y Graig, Brown y Wal a'r
Glesyn Cyffredin, a gwyfynnod dydd fel y Bwrned Chwe-Smotyn.
Felly hefyd sawl chwilen, sioncyn y gwair a gwas y neidr.
|