Bae Cemlyn o’r Llwybr Arfordirol

Mae yna amrywiaeth eang o fywyd gwyllt i ‘w gael ar Warchodfa Natur Cemlyn
Cliciwch ar y delweddau (ar y dde) i ddarganfod mwy…




 
Morwenoliaid
Adar
eraill
Anifeiliaid
eraill
Bywyd
tanddwr
Planhigion
           
 

Adar eraill
Mae Pioden y Môr a’r Cwtiad Torgoch ill dau yn magu yn y warchodfa, gan wneud eu nyth yng nghanol cerrig mân yr esgair. Gan fod eu dewis o safle i nythu mor agored, mae’r ddau rywogaeth yn dibynnu ar guddio eu hwyau a’r cywion. Fel ymateb i fygythiad uniongyrchol, bydd oedolyn y Cwtiad Torgoch yn cymryd arno bod ganddo adain wedi torri, gan ddenu sylw ysglyfaethwr posibl drwy ffugio anaf a’i arwain oddi wrth y nyth. Er mwyn gwarchod y rhydwyr hyn, a’r morwenoliaid, gofynnir i ymwelwyr beidio â cherdded ar ochr y lagŵn i’r esgair yn ystod misoedd yr haf.

Mae lleoliad Cemlyn a’i amrywiaeth o gynefinoedd yn ei wneud yn hafan i amrywiaeth o adar drwy gydol y flwyddyn. Fel arfer, gwelir y Cwtiar, yr Wyach Fach a Hwyaden yr Eithin o amgylch y lagŵn, ac mae Clochdar y Cerrig i’w weld yn rheolaidd yn y prysgwydd o amgylch. Mae amrywiaeth o rydwyr, fel y Gylfinir, Pibydd y Mawn, y Cwtiad Aur a’r Pibydd Coesgoch yn defnyddio’r ardal hefyd a gellir gweld y Pibydd Du ar y traeth creigiog.

Ymhlith yr ymwelwyr i gadw llygad amdanynt yn ystod yr haf mae’r Llwydfron a Thelor yr Hesg, tra bo’r Chwiwell, y Gorhwyaden, yr Hwyaden Frongoch ac adar gwyllt eraill i’w gweld yma yn ystod yr hydref a’r gaeaf.

Daw adar mudo eraill yma o dro i dro a thros y blynyddoedd, gwelwyd amrywiaeth o adar prin iawn yma – bydd pob adarwr brwd eisiau archwilio’r safle i geisio canfod rhywbeth anarferol.

 
Pioden y Môr
YGNC
Cwtiad Torgoch ar y graean
Ben Stammers
 

Cwtiad Torgoch chick
Ben Stammers

 
Cwtiar
NWWT
   
   
Clochdar y Cerrig
J. Plant
 
cynlluniwyd a chynhaliwyd y safle we yma gan antenna creative