Bywyd tanddwr
Mae arfordir Cemlyn yn cynnwys
cerrig mân, tywod a glannau creigiog agored. Maer
rhain yn cynnig cynefinoedd i amrywiaeth o fywyd y môr,
yn cynnwys pysgod yr anemoni, crancod, corgimwch, llyfrothod,
nadroedd môr, gwichiaid, llygaid meheryn, cen
arfordirol ac amrywiaeth o wymon y môr.
Maer lagŵn, gydai gymysgedd cyfnewidiol o ddŵr croyw a hallt, yn amgylchedd heriol, ond maer Mingrwn ar Llysywod yn ffynnu yn yr amodau hallt. Yn wir, mae Cemlyn yn un or prif safleoedd ar gyfer bywyd mŪr y lagŵnau hallt, yn cynnwys perdys a molysgiaid, a phlanhigion dŵr fel Dyfrllys Tuswog.
|