Planhigion
Cerrig m•n yr esgair yw un o'r cynefinoedd llymaf yn bod
i blanhigion - yn sych oherwydd bod y cerrig yn draenio'r
dŵr yn gyflym iawn, ac yn agored a gwyntog, gyda'r
dŵr hallt yn chwistrellu'r safle a stormydd y gaeaf
yn ei guro. Er hynny, mae'n gartref i blanhigion arbenigol
fel Bresych y Môr. Mae gwreiddiau dwfn a dail cnawdol
y planhigyn hwn yn ei alluogi i oroesi yn agos at linell
y llanw ac mae'r llu blodau gwynion a ddaw arno'n cynnig
arogl melys cryf.
Ymhlith y planhigion arfordirol nodweddiadol eraill
i chwilio amdanynt ar hyd yr esgair mae'r Gludlys Arfor,
Betys y Môr a'r Pabi Corniog Melyn trawiado. Gwelir
clystyrau o'r Llygwyn Ariannaidd a'r Gwydrlys (Asbaragws
y Môr) pan fo'r llanw'n isel, yn ymyl maes parcio Bryn
Aber.
Maer glaswelltir o amgylch Cemlyn yn llawn blodau
gwyllt; ceir gorchudd cynnar o liw gan Seren y Gwanwyn
a Chlustog Fair syn lliwior glaswellt yn
las a phinc, ac ymhlith y blodau syn blodeuon
hwyrach ymlaen ar y Trwyn maer Tresgl, Cribell
Felen, Clafrllys ar Ganrhi Goch.
|